Chris Chisholm (I.C.S.F) Cynllunydd Blodau

'Gofalus', 'Syfrdanol, 'Popeth yr oeddem ni eisiau a mwy' - dyma'r geiriau a ddefnyddir i ddisgrifio gwaith Chris Chishom.

Fel cynllunydd blodau, mae Chris yn gweithio gyda'i chleientiaid gan ddefnyddio lliw, gwead ac arogl blodau. Mae'n llunio dyluniadau ar gyfer lleoliadau, digwyddiadau corfforaethol, a phriodasau i fwyhau'ch digwyddiad a swyno'ch gwesteion. Mae ei diddordeb mewn ffurf a gwead i'w weld mewn dyluniadau traddodiadol ac avant-garde. Mae ei thuswau priodas a'i blodau lleoliad arloesol wedi denu priodferched o leoedd sydd mor bell i ffwrdd ag Efrog Newydd.

Daw Chris â'i harbenigedd, ei gwybodaeth a'i chariad at flodau ynghyd â'i gwasanaeth gofalus, dwyieithog i wneud unrhyw ddigwyddiad arbennig yn fythgofiadwy. Mae Chris, sy'n gweithio'n gyson ar draws Gogledd Cymru a Swydd Gaer, yn hapus i ymgynghori trwy gyfrwng y Saesneg neu'r Gymraeg a hynny yng nghysur eich cartref neu'ch gweithle.

Gan ddefnyddio ei chymwysterau dysgu, mae Chris hefyd yn dysgu mewn lleoliadau ar draws Gogledd Cymru, gan rannu ei brwdfrydedd ag eraill. Yn ei gweithdai mae pawb yn cael cyfle i ddethol blodau, eu torri a'u gwifro, gan greu dyluniad blodau hardd i'w gymryd adref i ddangos sgiliau newydd a ddysgwyd.

Mae gan Chris Ddiploma Uwch mewn Blodeuwriaeth ac mae'n hyrwyddo pwysigrwydd gwerthwyr blodau cymwys i ddarparu gwasanaeth o safon. Mae Chris hefyd yn rhan o raglen Modelau Rôl Dynamo gan ymweld ag ysgolion yng Ngogledd Cymru i rannu â disgyblion y cyffro a'r heriau ddaw gyda rhedeg eich busnes eich hun.