Digwyddiadau

Mae digwyddiad pwysig yn galw am flodau arbennig ynghyd â dyluniad dychmygus ac arloesol. Pa un ai'n briodas, yn ddathliad teuluol, yn ddigwyddiad corfforaethol neu'n flodau lleoliad, mae Chris Chisholm, gyda'i phrofiad a'i gwybodaeth, yn creu dyluniadau blodau sy'n crynhoi ysbryd y digwyddiad gan sicrhau'r ‘waw ffactor' ar gyfer gwesteion a chynrychiolwyr. Gan weithio'n agos gyda chleientiaid, mae ei hempathi, ymroddiad a'r sylw i fanylion yn dileu unrhyw straen ymhell cyn y digwyddiad ei hun.

Priodasau

Gan ddefnyddio'r blodau a'r dail gorau yn eu tymor, a chyffyrddiadau cyfoes hynod, mae tuswau priodas Chris yn ategu a mwyhau'r ffrog briodas o ddyluniadau coeth a glymwyd â llaw i duswau dramatig sy'n cyrraedd i'r llawr. O ran eich lleoliad, mae dyluniadau blodau yn creu awyrgylch a'r lleoliad perffaith ar gyfer y dydd.

Dathliadau Teulu

Beth bynnag fo'r dathliad, gwenwch y digwyddiad yn fwy arbennig fyth gyda thuswau, pedestalau ac addurniadau blodau unigol ac arloesol.

Corfforaethol

Ar gyfer cleientiaid corfforaethol mae modd dehongli thema'r gynhadledd neu'r digwyddiad mewn dyluniad blodau bywiog a chofiadwy.

Hurio

Mae candelabra, gorchuddion cadeiriau, coed llawryf, drychau a goleuadau hefyd ar gael i'w hurio gan roi awyrgylch arbennig i'ch lleoliad.

Cysylltwch â Chris heddiw