Oriel Ddarluniau
Diolch o galon ichi am y blodau arbennig y gwnaethoch eu cynllunio ar gyfer ein priodas! O'r foment y cawsoch chi'r syniad o osod tywod a chregyn yn y powlenni pysgod gyda'r blodau anthuriwm, y rhosod a'r tegeirian roeddem ni'n gwybod y byddai'n ffantastig! Roedd pawb wedi dotio gyda'r trefniadau o'r blodau twll botwm, i'r tusw a'r blodau ar y byrddau. Diolch yn fawr iawn eich holl waith caled - fe wnaethom ni ei werthfawrogi. Y blodau hardd oedd uchafbwynt ein diwrnod. Gyda chariad, Mary a James
Mary a James
Mary a James
- Thema: Mauritius a'r DU – Blodau Cenedlaethol a'r traeth
- Lleoliad: Northop Hall Country House Hotel
Roedd Matt a finnau am ysgrifennu atoch i ganmol y gwasanaeth hynod a gawsom gennych ar ddiwrnod ein priodas. Roedd y blodau yn arbennig. Dydw i ddim yn credu y gallem ni fod wedi cael unrhyw beth harddach nac unrhyw beth fyddai wedi gweddu'n well - roeddent yn berffaith.
Roedd y blodau a'r addurniadau ar seddau'r eglwys yn hyfryd ac yn gweddu'r eglwys i'r dim; ac roedd fy nhusw i'r union beth oedd gen i mewn golwg. Roedd yr addurniadau bwrdd, yr addurniadau ar y wal a'r candelabra yn y brecwast priodas yn rhagori ar bob disgwyliad! Roedd pawb wedi eu syfrdanu. Roedd y trefniadau yn hardd ac anhygoel!
Rydym ni eisoes wedi rhoi'ch enw i ffrindiau i ni sy'n bwriadu priodi yn nes ymlaen eleni. Felly unwaith eto, diolch yn fawr iawn. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y dyfodol.
Cofion gorau.
Andrea a Matt
Diz a Matt
- Lleoliad: Canolfan Gynadledda a Phriodasau Ffermdy ac Ysgubor Plas Isaf
Gair bach i ddiolch i chi am yr holl flodau hyfryd a gawsom gennych ar ddiwrnod priodas Sian. Roedd y blodau yn y capel a Phlas Isaf yn hardd iawn. Roedd bouquet a posies y morwynion yn fendigedig. Roedd llawer o westeion yn edmygu'r blodau yn fawr iawn. Diolch am y cyngor a'r help a gawsom i wneud y penderfyniadau.
Thank you for all the beautiful flowers we had for Sian's wedding. The flowers at the church and Plas Isaf were very beautiful. Sian's bouquet and the bride's maids were fantastic. Our guests were admiring the floral displays. Thank you for all the advice to help us make our decisions.
Mam y briodferch: Helen Davies
Ben a Sian
- Thema: Gardd yn y Wlad
- Ffotograffydd: Ffotograffiaeth JE Jones
- Lleoliad: Ffermdy ac Ysgubor Plas Isaf
Diolch am sicrhau bod ein priodas yn edrych yn anhygoel o bob ongl! Roeddem ni'n caru'r blodau i gyd ac ni fuasem ni wedi gallu creu hyn heb eich gweledigaeth, eich creadigrwydd, eich ymroddiad a'ch brwdfrydedd. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau'r rhodd yma a chynnig llwncdestun i'ch athrylith greadigol!
Rachel a Rafi
...diolch o galon ichi am y blodau arbennig o hardd oedd i'w gweld ym Mhlas Isaf ar gyfer priodas Rachel a Rafi... Roedden nhw'n anhygoel - ac mae'r ymroddiad a'r gofal a rowch i bob manylyn a phob agwedd o'r arddangosfa flodau yn arbennig tu hwnt. Roeddem ni'n gwybod o'r foment yr eisteddom ni gyda chi llynedd fod gennych gryn dalent sy'n mynd tu hwnt i'r gwasanaeth arferol a geir gan eraill sy'n galw eu hunain yn gynllunwyr blodau. Rydym ni'n cyfri ein hunain yn lwcus iawn i fod wedi dod o hyd i chi ac rwy'n diolch unwaith eto am wneud priodas Rachel a Rafi yn ddigwyddiad mor hardd.
Julia Fawcett (Mam y briodferch)
Rachel a Rafi
- Ffotograffydd: Aled Oldfield
- Lleoliad: Canolfan Gynadledda a Phriodasau Ffermdy ac Ysgubor Plas Isaf
- Thema: Y trefniadau blodau eu cynllunio i adlewyrchu cynllun lliw'r briodferch gyda'r blodau wedi eu dethol am eu hystyr arwyddocaol i'r priodfab a'r briodferch.


